14.9.08

Erydiad arfordirol yn Norfolk

Rydym ni yn astudio erydiad arfordirol yng ngogledd-ddwyrain Lloegr ar arfordir Holderness. Ardal arall sy'n dioddef erydiad arfordirol difrifol yw arfordir Norfolk. Cliciwch yma i ddarllen erthygl sy'n dangos sut mae pentref Happisburgh yn diflannu mewn i'r mor yn eithaf cyflym oherwydd erydiad arfordirol. Cliciwch ar y ddelwedd isod i weld cyfres o luniau yn dangos yr erydiad hwn ar waith, ond hefyd ambell lun yn dangos dyddodiad. Sut mae'r erydiad a'r dyddodiad hwn yn digwydd? Oes strategaethau ar waith i amddiffyn y tir rhag erydiad o'r mor?

No comments: