Sut mae corwynt yn ffurfio?
Sut mae corwynt yn ffurfio? Cliciwch ar y ddelwedd uchod i weld sut mae corwynt yn ffurfio. Byddwch angen adolygu hwn ar gyfer eich arholiad. Mae corwynt yn enghraifft o astudiaeth achos rydych angen ei ddysgu er mwyn gallu ateb cwestiwn ar ddigwyddiad tywydd a achosir gan wasgedd isel. Rydych chi wedi astudio corwynt Andrew (enghraifft mewn GFDdE), a chorwynt Mitch (enghraifft mewn GLDdE).
Dros y dyddiau diwethaf mae corwynt (neu seiclon fel y'i gelwir yn Ne Asia) wedi taro Myanmar (Burma oedd yr hen enw ar y wlad). GLDE yn Ne Asia yw Myanmar gydag anawsterau gwleidyddol enfawr. Efallai i chi gofio fel y bu'r mynachod yn ddiweddar yn protestio yn erbyn y llywodraeth, a'r llywodraeth yn carcharu llawer ohonynt. Mae'n wlad lle nad oes rhyddid gan y bobl i fynegi barn am y llywodraeth, neu maent mewn perygl dybyrd o gael eu carcharu a'u harteithio. Sut mae'r bobl yn y wlad hon yn cael eu heffeithio gan y corwynt (Seiclon Nargis)? Sut fydd hi'n bosib i wledydd eraill ddanfon cymorth i wlad lle mae mor anodd i gael cysylltiad gyda phobl y wlad?
Cliciwch ar y ddelwedd isod i weld erthygl a fideo yn dangos y seiclon a'i effeithiau yn Myanmar (Burma).

Cliciwch ar y ddelwedd isod i weld casgliad o luniau yn dangos y seiclon a'i effeithiau:



No comments:
Post a Comment