Blwyddyn Ryngwladol Glanweithdra y CU 2008
Mae eleni yn flwyddyn ryngwladol glanweithdra y Cenhedloedd Unedig. Cliciwch ar y ddelwedd uchod i ddarllen mwy am hyn.Y bwriad yw i wella amodau byw i bobl dlawd ar draws y byd gan anelu am sicrhau lefelau sylfaenol o lanweithdra i bawb. Yn Kibera, anheddiad sgwatwyr mwyaf Affrica sydd yn Nairobi Kenya lle mae mwy na miliwn o bobl yn byw, nid oes un ty bach yno sydd a'r carthffosiaeth yn symud i system garthffosiaeth y ddinas.
Yn hytrach, mae'r carthffosiaeth yn llifo mewn i ffosydd agored sy'n llifo i lawr y stryd. Cliciwch ar y lluniau hyn i weld mwy o luniau tebyg.
Sylwch ar y bagiau plastig yn y lluniau. Dyma yw'r "flying toilets"; gan ei bod yn rhy beryglus i fynd allan o'r tai yn y nos i fynd i'r ty bach, mae pobl yn mynd i'r ty bach mewn bagiau plastig ac yn eu taflu allan o'u tai i'r stryd. Nid oes gwasanaeth casglu sbwriel yn Kibera, felly mae'r bagiau plastig hyn yn aros ar y stryd ac yn golchi mewn i'r ffosydd. Yn y gwers tanbaid, mae'r arogl yn erchyll, ac mae afiechydon yn datblygu yn gyflym iawn.
Gwyliwch y fideo yma sy'n dangos pa mor erchyll yw'r broblem yn Kibera.

No comments:
Post a Comment