5.12.07

Gwaith cwrs Parc Cenedlaethol Llyn Nakuru

Cofiwch bod angen son am grwpiau gwahanol o bobl - mae hyn yn hanfodol! Rhaid i chi allu trafod sut mae'r canlynol yn defnyddio/niweidio/cyfrannu at warchod Parc Cenedlaethol Llyn Nakuru:
ffermwyr tlawd
twristiaid
cwmniau eco-dwristiaeth
wardeniaid yn y parc
diwydiannwyr tecstiliau/gweolion yn ninas Nakuru
trigolion y trefi sianti yn Nakuru
Masaai
llywodraeth Kenya
I'r rhieni/To the parents

Mae'r uned gwaith cwrs "Beth yw dyfodol Parc Cenedlaethol?" i'w gyflwyno yn yr ail wers ar ol gwyliau'r Nadolig. Cwblheir y gwaith ar gerdyn A2 a ddosbarthir yn yr ysgol. Mae'r uned hon o waith yn cyfrif am 10% o'r marc TGAU terfynol. Dylid ymchwilio'n drylwyr ar gyfer y cywaith - mae'r safleoedd gwe a nodir yma yn fan cychwyn da. Disgwylir bod gwaith ysgrifenedig, mapiau, graffiau, diagramau a lluniau wedi eu cynnwys. Dylai'r lluniau, graffiau a mapiau fod wedi eu hanodi - hynny yw dylai labelau ar ffurf brawddegau fod o'u hamgylch. Mae'n rhaid:
nodi pa fath o le yw Parc Cenedlaethol Llyn Nakuru a beth yw ei leoliad,
cofio son am broblemau'r Parc Cenedlaethol,
nodi beth sydd yn eu hachosi,
trafod effeithiau'r problemau,
trafod sut mae pobl yn effeithio ar y parc gan gyfeirio at grwpiau gwahanol o bobl
trafod sut mae'r Parc Cenedlaethol yn effeithio ar grwpiau gwahanol o bobl
cyflwyno datrysiadau posibl i broblemau'r parc
ystyried beth yw dyfodol y Parc Cenedlaethol

The coursework titled "What is the future of Lake Nakuru National Park?" is to be submitted during the second Geography lesson after Christmas. This unit of work accounts for 10% of the overall GCSE mark in the subject. The project is expected to be completed on one side of A2 card which will be given out in school. Care should be taken to research the project thoroughly. Maps, graphs, diagrams and pictures should be incorporated and referred to within the written work. The pictures, graphs and maps should be annotated - which means that they should be labelled using full sentences. The following aspects must be included:

what sort of place is Lake Nakuru National Park and where is it located?
what are the problems of the national park?
what causes these problems?
what are the effects of these problems?
what effects do various groups of people have on the national park?
how does the national park affect various groups of people?
what are possible solutions to the national park's problems?
what is the future of Lake Nakuru National Park?


Dyma safleoedd gwe all fod o ddefnydd i chi:

A dyma gyfres o fideos sydd yn dangos y Parc Cenedlaethol a'i broblemau:

Ac ydy, mae rhywfaint o'r sain yn Ffrangeg. Ond edrychwch ar yr olygfa o fewn ffiniau'r Parc Cenedlaethol!!

Beth yw rhai o broblemau'r parc cenedlaethol? Gwyliwch y fideo isod:



Darllenwch yr erthygl hon trwy glicio yma er mwyn gweld sut mae llyn arall yn y Dyffryn Rifft yn Nwyrain Affrica dan fygythiad hefyd. Enw'r llyn hwn yw Llyn Natron, ac mae'n Tanzania - gwlad sydd i'r de o Kenya. Os ydych chi'n clicio yma, fe gewch erthygl arall sydd hefyd yn trafod yr un broblem:
Sylwch pa mor fas ydy'r dwr yn y fideo isod:

4 comments:

Anonymous said...

miss j, caerdydd a pa astudiaeth achos arall dylyn'i adolygu? atebwch asap diolch :)

Yr Adran Ddaearyddiaeth said...

Mae angen adolygu POB astudiaeth achos. Mae gwybodaeth am lawer ohonynt ar y blog.

Dyma rai ohonynt, ond mae pob un gyda ti yn dy waith yn dy lyfrau/ffeil Daearyddiaeth: ecosystemau Llyn Nakuru/y safana, coedwig law yr Amason, Y Sahel, corwyntoedd Mitch/Andrew, Nairobi, Caerdydd, Kariobangi, Llanbadarn Fynydd, Brasil (Gogledd-ddwyrain/De-ddwyrain Brasil), Bae Caerdydd, Penrhys, Sonys, diwydiant yn Ne Cymru, Ecuador.

Edrych ar y blog o dan y pennawd Astudiaethau Achos - dyna oedd blwyddyn 11 yn defnyddio llynedd cyn eu arholiadau.

huw d said...

Miss Jones
Cwestiwn random ond oes yna minimum neu max. am maint y font neu ydy'n dibynnu ar faint ni'n rhoi.

Yr Adran Ddaearyddiaeth said...

Dwi eisiau bod yn gallu ei ddarllen - maint 8 ar y lleiaf fydden i'n meddwl. Mwyaf- bydd hyn ddim yn broblem os wyt ti'n sgwennu popeth sydd ei angen!

Nadolig llawen i ti, a mwynha'r gwaith caled!

Miss J