Llifogydd Bangladesh a de Asia
Mae'r newyddion wedi bod yn brysur iawn dros yr wythnos diwethaf yn adrodd hanes y llifogydd sydd wedi digwydd ym Mangladesh, ac ardaloedd eraill ar draws de Asia gan effeithio ar dros 20 miliwn o bobl. Dyma enghraifft o lifogydd mewn GLDE. Bob blwyddyn, tua'r amser yma, mae glaw y monswm yn digwydd ac yn effeithio ar y rhan hon o'r byd, gan arwain at lifogydd sylweddol yn ardal gorlifdir afonydd y Ganges a'r Brahmaputra sy'n cydlifo ac yn creu delta yn yr iseldiroedd ym Mangladesh. Cliciwch ar y map a'r llun isod i weld sut mae'r monswn yn digwydd:

Mae'r fideo isod yn dweud beth sydd wedi digwydd yn y llifogydd - cliciwch ar y llun i weld y fideo:
Dyma erthygl sy'n trafod achosion ac effeithiau'r llifogydd:
Cliciwch ar y llun isod sy'n dangos casgliad o luniau eraill o'r llifogydd ym Mangladesh:
Mae'r map isod, os y cliciwch arno, yn mynd a chi i erthygl sy'n trafod y newyn mae pobl yr ardal hon o'r byd yn ei wynebu:
Mae'r erthygl isod, os y cliciwch ar y llun isod yn trafod rhai datrysiadau:
Mae'r erthygl hon, yr erthgyl hon a'r erthygl hon o'r Guardian yn trafod effeithiau'r llifogydd.




No comments:
Post a Comment