24.7.07

Llifogydd yng nghanolbarth Lloegr (2)

Mae'r problemau yn parhau i bobl canolbarth Lloegr. Mae yn agos 450,000 heb ddwr yfed yn y ty, ac ambell siop yn codi £15 am botel o ddwr. Mae dros 100,000 o dai heb drydan ac mae tref Tewkesbury wedi ei thorri ffwrdd gan ddwr. Cliciwch ar y llun isod o abaty Tewkesbury i weld mwy o luniau o'r llifogydd:Mae'r map hwn yn dangos yr ardaloedd lle mae rhybuddion llifogydd difrifol ar hyn o bryd. Cliciwch arno i weld mwy eto o wybodaeth:Yn ol daearyddwyr a meteorolegwyr, y rheswm bod y llifogydd wedi digwydd yw bod y jetlif wedi symud o'i llwybr gogleddol arferol i fod yn cyrraedd de-orllewin Prydain, a gall barhau am rai wythnosau - cliciwch ar ymap i ddarllen mwy:Ac yn olaf, dyma erthygl sydd yn trafod sut mae'r llywodraeth angen caniatau adeiladu 3miliwn o dai dros y blynyddoedd nesaf. Oherwydd prinder tir, mae awgrymiadau wedi bod i wneud yr adeiladu hwn ar orlifdir afonydd - ydy hyn yn ddoeth o ystyried y sefyllfa ar hyn o bryd?

No comments: