3.2.07

Gwaith cwrs bl 10 - Beth yw dyfodol Parc Cenedlaethol Llyn Nakuru?

Cofiwch bod angen son am grwpiau gwahanol o bobl - mae hyn yn hanfodol! Rhaid i chi allu trafod sut mae'r canlynol yn defnyddio/niweidio/cyfrannu at warchod Parc Cenedlaethol Llyn Nakuru:
ffermwyr tlawd
twristiaid
cwmniau eco-dwristiaeth
wardeniaid yn y parc
diwydiannwyr tecstiliau/gweolion yn ninas Nakuru
trigolion y trefi sianti yn Nakuru
Masaai
llywodraeth Kenya
I'r rhieni/To the parents

Mae'r uned gwaith cwrs "Beth yw dyfodol Parc Cenedlaethol?" i'w gyflwyno yn ystod y wers gyntaf o Daearyddiaeth ar ol hanner tymor sef 27 Chwefror os yw'r myfyriwr yn nosbarth Miss J. Y dyddiad cyflwyno ar gyfer dosbarthiadau Mr T yw 13 Chwefror. Cwblheir y gwaith ar gerdyn A2 a ddosbarthir yn yr ysgol. Mae'r uned hon o waith yn cyfrif am 10% o'r marc TGAU terfynol. Dylid ymchwilio'n drylwyr ar gyfer y cywaith - mae'r safleoedd gwe a nodwyd yn y post ar 24 Ionawr yn fan cychwyn da. Disgwylir bod gwaith ysgrifenedig, mapiau, graffiau, diagramau a lluniau wedi eu cynnwys. Dylai'r lluniau, graffiau a mapiau fod wedi eu hanodi - hynny yw dylai labelau ar ffurf brawddegau fod o'u hamgylch. Mae'n rhaid:
nodi pa fath o le yw Parc Cenedlaethol Llyn Nakuru a beth yw ei leoliad,
cofio son am broblemau'r Parc Cenedlaethol,
nodi beth sydd yn eu hachosi,
trafod effeithiau'r problemau,
trafod sut mae pobl yn effeithio ar y parc gan gyfeirio at grwpiau gwahanol o bobl
trafod sut mae'r Parc Cenedlaethol yn effeithio ar grwpiau gwahanol o bobl
cyflwyno datrysiadau posibl i broblemau'r parc
ystyried beth yw dyfodol y Parc Cenedlaethol

The coursework titled "What is the future of Lake Nakuru National Park?" is to be submitted during the first Geography lesson after half-term (27 February) if the student is in Miss J's class. The presentation date for Mr T's classes is Tuesday 13 February. This unit of work accounts for 10% of the overall GCSE mark in the subject. The project is expected to be completed on one side of A2 card which will be given out in school. Care should be taken to research the project thoroughly - the post on 24 January is a good starting point. Maps, graphs, diagrams and pictures should be incorporated and referred to within the written work. The pictures, graphs and maps should be annotated - which means that they should be labelled using full sentences. The following aspects must be included:

what sort of place is Lake Nakuru National Park and where is it located?
what are the problems of the national park?
what causes these problems?
what are the effects of these problems?
what effects do various groups of people have on the national park?
how does the national park affect various groups of people?
what are possible solutions to the national park's problems?
what is the future of Lake Nakuru National Park?

19 comments:

Rhys D said...

Mae'r cywaith hon yn anodd Mrs. Jones "go easy next time will you"?

Yr Adran Ddaearyddiaeth said...

Oes problem benodol gyda'r cywaith? Os oes, beth yw e? Tyrd i'm gweld amser egwyl bore fory gyda gwaith ysgrifenedig rwyt ti wedi gwneud. Edrych ar y penawdau wnes i eu rhoi yn y template - ac edrych ar y nodiadau rwyt wedi eu derbyn.

Yr Adran Ddaearyddiaeth said...

Gyda llaw, Miss J sydd eisiau dy weld amser egwyl fory!

*LOU* said...

Heyyyya
Ar gyfer y gwaith cwrs pa grwpiau o pobl sydd angen ysgrifennu am?!?!?!? xx

Rhys D said...

mrs jones, oes gennych chi cymorth am y barnau grwpiau o bobl?

Yr Adran Ddaearyddiaeth said...

Helo - barnau o bobl - mae rhestr ar y daflen cyfarwyddiadau - y dudalen cyn y cynllun marcio. Mae'n cynnwys grwpiau o bobl tebyg i:
- Masaai
- Ffermwyr tlawd
- Trigolion trefi sianti yn Nakuru
- Warden yn y Parc Cenedlaethol
- Cwmni teithio o Kenya
- Perchennog ffatri weolion (tecstiliau) o Nakuru
- Gweinidog yn Llywodraeth Kenya

I ysgrifennu am farn y grwpiau uchod/y rhai sydd wedi eu nodi ar y daflen gyfarwyddiadau mae angen i chi "feddwl" beth allai barn y grwpiau gwahanol y bobl hyn fod.

Er enghraifft, fydd perchennog ffatri weolion o Nakuru yn poeni bod cemegion o'i ffatri yn mynd mewn i'r llyn? Ydy o'n mynd i fod yn meddwl am wneud arian mewn gwlad dlawd fel Kenya? Beth am y cyfleon gwaith mae'n ei gynnig?

Er enghraifft, beth yw barn y ffermwyr tlawd am ddatgoedwigo (torri coed)? Ydy o'n mynd i fod yn poeni am erydiad neu sicrhau bwyd i'w deulu? Faint o blant sy'n debygol i fod ganddo? Beth am dwf poblogaeth a maint ffermydd yn lleihau? Ydy'r ffermwr yn gallu gwneud rhywbeth am hyn? Beth am ei blant?

Fel y dywedais, mae angen i chi ddefnyddio'ch synnwyr cyffredin! Gofynnwch os ydych am esboniad pellach, er cofiwch mai gwaith cwrs yw hwn, a'ch gwaith eich hun sydd ei angen. Cofiwch ddefnyddio'r pecynau gwybodaeth.
Miss J

amy said...

Hia
OS ganddoch unrhyw gymorth i helpu gyda'r "map o'r broblemau"? Mae fy un fi yn edrych yn wag.
Diolch

Yr Adran Ddaearyddiaeth said...

Wyt ti wedi edrych ar y problemau sydd yn y pecyn adnoddau - y dudalen Gymraeg agosaf i'r cefn, ac ar y map ar gefn y papur arholiad. Ydy'r graffiau ar y papur arholiad yn dangos problemau? Gelli gynnwys graffiau addas gyda'r problemau. Wyt ti wedi dweud pwy sy'n achosi'r problemau a pham? Wyt ti wedi dweud ar bwy mae'r problemau yn effeithio a sut? Wyt ti wedi awgrymu datrysiadau? Pwy sy'n cael budd o'r datrysiadau? Pwy fydd yn gwneud y datrysiadau? Sut?

*LOU* said...

Ar gyfer y cwaith cwrs pa size ysgrifen ydych chi'n awgrymu?? xx

amy said...

Diolch miss j
ydy o'n iawn dwi wedi dweud bod angen adeiladu ffens talach a gryfach i atal anifeiliaid fel babwns dringo dros

Yr Adran Ddaearyddiaeth said...

Maint ysgrifen - fyny i ti! Dwi eisiau bod yn gallu ei ddarllen!! Rhywbeth tebyg i'r rhai o Bangladesh sydd ar wal fy ystafell???

Amy - swnio'n iawn i fi. Dweud pam wyt ti'n meddwl y byddai'n syniad da.

Yr Adran Ddaearyddiaeth said...

Os ydy'r map yn y pecyn adnoddau yn un sy'n dangos problemau, dwi'n siwr y bydd hwnnw'n iawn.

Rhys D said...

diolch miss j! roeddwch yn help fawr.

amy said...

Dwi wedi cael "sickness bug" dros y pen wythnos a doeddwn i ddim yn yr ysgol heddi. Dywi i ddim yn siwr os di'n mynd i fod yn y'r ysgol yfori. Ydy o'n iawn os dwi'n cael dydd arall i'w wneud neu wyt ti moen iddo fy chwaer dod a fe yfori.

Yr Adran Ddaearyddiaeth said...

Os wyt ti wedi ei orffen ac yn ymddiried yn dy chwaer i'w roi yn ddiogel i fi, yna, fe'i gymeraf fory. Os na, fe gaf i e gennyt ti dydd Mercher. Brysia wella!

amy said...

Diolch miss j
dwi wedi ei teipio i fynnu ond mae'n rhaid imi ei gludo arno.

Rhys D said...

miss j, rwyn flin iawn ond ni allai orfen o heno. rwyf wedi gwneud yn ngorau ac wedi dod lan a llawer o bethau, pryd ydych chi eisiau i fi gorfen o erbyn nawr?

Rhys D said...

miss j, beth wnaethoch chi ddweud am y Maasai ac am pwy oedden nhw?

Yr Adran Ddaearyddiaeth said...

Masaai - llwyth o bobl o Kenya. Yn draddodiadol yn bugeilio gwartheg, ac yn nomadiaid (symud o le i le i gael bwyd a glaw i'r anifeiliaid). Erbyn hyn, yn ffermio llai, ac yn gweithio gyda'r twristiaid - dawnsio, tywysyddion, dangos pobl o amgylch eu tai/pentrefi traddodiadol. Oherwydd twf poblogaeth, llawer yn gorfod mudo i fyw i'r dinasoedd - arwain at dwf y trefi sianti/aneddiadau sgwatwyr.