3.12.06

Adolygu astudiaethau achos

Gwaith a chyflogaeth

Diwydiant yn Ne Cymru

Blwyddyn 11 - ar gyfer eich ffug arholiadiau mae angen i chi adolygu dirwyiad diwydiannol De Cymru (a'r effeithiau lluosydd negyddol a welir o ganlyniad i hyn - sbiral dirywiad), gan edrych hefyd ar sut mae'r ardal wedi gweld twf a datblygiad diwydiannol ar hyd coridor yr M4. Un cwmni sydd wedi sefydlu wrth ymyl yr ysgol yw Sony (diwydiant eilaidd), sef cwmni o Japan (felly o dramor) sydd wedi buddsoddi yn Ne Cymru (a'r effeithiau lluosydd positif a welir o ganlyniad i hyn). Mae angen i chi adolygu'r astudiaethau achos hyn ar gyfer y ffug-arholiad - maent yn bwysig - cofiwch yr agweddau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Dyma safleoedd gwe all fod yn ddefnyddiol:
Sgroliwch lawr nes ydych yn cyrraedd y rhan addas o'r safle gwe isod am ddiwydiant yn Ne Cymru. Sylwch bod yma wybodaeth hefyd am y diwydiant twristaidd yn Kenya (diwydiant trydyddol) sydd yn cydfynd gyda'r gwaith rydym wedi gwneud ar Barc Cenedlaethol Llyn Nakuru yn Kenya.

No comments: