23.11.06

Adolygu astudiaethau achos

Problemau cyflenwad dwr a sychder: Y Mor Aral

Blwyddyn 11 - dylech fod yn adolygu bellach. Dyma wybodaeth am astudiaeth achos bwysig rydych wedi ei astudio. Mae'n bwysig wrth ystyried cyflenwad dwr a sychder a sut mae pobl wedi newid yr hinsawdd (tywydd a hinsawdd), ac hefyd mae newidiadau o fewn y diwydiant ffermio cotwm yn bwysig hefyd (diwydiant cynradd/primaidd: gwaith a chyflogaeth). Wrth adolygu'r astudiaethau achos, cofiwch bod angen dysgu ffigurau a ffeithiau penodol am y lle dan sylw.
Sylwch fel mae'r Mor Aral wedi crebachu (lleihau) dros amser oherwydd defnyddio dwr i ddyfrhau'r planhigyn cotwm wrth ei ffermio.
Cliciwch ar y llun isod i fynd i un o hoff safleoedd gwe Miss J - mae lluniau a gwybodaeth ddiddorol am y Mor Aral yma:


Wrth ddysgu am y Mor Aral, dysgwch wybodaeth sy'n ateb y cwestiynau hyn:

  • Ble mae'r Mor Aral?
  • Beth yw problem y Mor Aral?
  • Beth sydd wedi achosi i'r Mor Aral leihau? (rhesymau cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol ac amgylcheddol)
  • Beth yw effeithiau'r Mor Aral yn lleihau?
  • Sut y gellir datrys problemau'r Mor Aral?
  • Beth yw'r dyfodol i'r Mor Aral?
  • Sut mae pobl wedi achosi sychder i ddigwydd yn ardal y Mor Aral?

Dyma safleoedd gwe defnyddiol i chi:

http://en.wikipedia.org/wiki/Aral_Sea

http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/monitoring/media_reports/1311114.stm

http://news.bbc.co.uk/1/hi/programmes/from_our_own_correspondent/287607.stm

http://www.fao.org/WAICENT/FAOINFO/AGRICULT/magazine/9809/spot2.htm

No comments: