Earth album
Dyma safle gwe hyfryd:
http://www.earthalbum.com/
Dyma gerddwr ar rewlif(glacier) yn Seland Newydd:

Dyma lun o Efrog Newydd yn y nos sy'n amgylchedd gwahanol iawn:

Ym Mali yn Affrica mae'r llun hwn o ddwy fenyw yn cario dwr wedi ei gymryd.

Wrth gymharu'r tri llun uchod, beth maent dweud wrthoch chi am fywyd yn Seland Newydd, Unol Daleithau America a Mali? Beth sy'n debyg? Beth sy'n wahanol? Ydy'r lluniau hyn yn adlewyrchiad teg o fywyd yn y dair gwlad? Ydy pawb yn byw fel hyn?
Cliciwch ar y cysylltiad uchod fydd yn mynd a chi i "Earth album". Cliciwch ar ardal o'r byd o'ch dewis chi, a bydd casgliad o luniau yn ymddangos. Cliciwch ar lun o'ch dewis chi a bydd yn ymddangos yn fawr. (Gyda llaw, mae clicio ar Gymru yn ddiddorol iawn - beth sydd o'i le gyda'r lluniau yma?!?!) Mwynhewch eich taith o amgylch y byd!



No comments:
Post a Comment